Winter Fuel Support Scheme and other Welsh Government resources | Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ac adnoddau eraill Llywodraeth Cymru

Annwyl cyfaill | Dear colleague

 

Please see below details of the increased Winter Fuel Support Scheme (now £200 with an extended claims deadline) along with the other existing measures in place to help support your clients through the cost of living crisis. We hope you can circulate the details throughout your networks and make use of the social media resources.

 

Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Winter Fuel Support Scheme

Fel rhan o becyn cymorth ehangach o dros £50m i fynd i’r afael â phwysau ar gostau byw ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.  

Ar 1 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol estyniad i’r cymorth i aelwydydd drwy ddyblu’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf gan gynyddu’r taliad o £100 i £200. Bydd hyn ar gael i ymgeiswyr newydd ac yn cael ei ôl-dalu i’r rhai sydd wedi gwneud cais eisoes.

Fel rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio ar eich sianeli cyfathrebu i’n helpu i rannu’r neges â chynulleidfaoedd, gan wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r cynllun a sut i wneud cais. Felly rydym wedi casglu pecyn o adnoddau i’ch helpu i rannu negeseuon am y ‘Cynllun cymorth tanwydd gaeaf’ â’ch cynulleidfaoedd.

As part of a wider support package of over £50m to address immediate pressures on living costs, Welsh Government has made available a Winter Fuel Support Scheme.

On the 1st of February 2022 the Minister for Social Justice extended support to households by doubling the Winter Fuel Support Scheme, increasing the payment from £100 to £200. This will be available to new applicants and retrospectively paid to those who have applied already.

Adnoddau

Testun a delweddau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Rydym wedi llunio negeseuon dwyieithog ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a chasgliad o ddelweddau i chi eu defnyddio ar eich sianeli eich hunain. Mae croeso i chi dewis y negeseuon mwyaf addas at eich cynulleidfaoedd.

Resources

Social media posts and assets

We’ve prepared bilingual social media posts and a suite of images for you to use on your own channels. Feel free to pick and choose posts that will most resonate your audiences.

Beth yw’r gronfa?

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu cyngor lleol er mwyn rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf ar y grid. Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys ni waeth sut mae’n talu am ei danwydd ar y grid, boed hynny, er enghraifft, drwy fesurydd talu ymlaen llaw, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Mae’r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae un aelod yn cael rhai budd-daliadau penodol.

Bydd ymgeisydd yn bodloni’r amod hwn os bydd yr ymgeisydd (neu bartner yr ymgeisydd) yn cael un o’r budd-daliadau cymhwyso sy’n seiliedig ar brawf modd i bobl oedran gweithio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Y budd-daliadau cymhwyso hyn yw:

·         Cymhorthdal Incwm

·         Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm

·         Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm

·         Credyd Cynhwysol

·         Credydau Treth Gwaith

Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifol am dalu biliau ynni’r eiddo.

Bydd ymgeisydd yn bodloni’r amod hwn os bydd yr ymgeisydd (neu bartner yr ymgeisydd) yn gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar y grid i’r darparwr ynni ar gyfer eiddo yng Nghymru ac os mai prif breswylfa’r ymgeisydd yw’r eiddo. Mae’r amod hwn wedi’i fodloni ni waeth a fydd yr ymgeisydd yn talu am danwydd ar y grid drwy fesurydd talu ymlaen llaw, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter. Nid yw’r amod hwn wedi’i fodloni os bydd ymgeisydd (neu bartner yr ymgeisydd) yn talu am danwydd oddi ar y grid.

Gall unrhyw un y mae angen cymorth ariannol arno i dalu am danwydd oddi ar y grid (megis olew, nwy petrolewm hylifedig neu glo) ystyried gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth.

Bydd cynghorau lleol yn cysylltu ag aelwydydd cymwys i ofyn iddynt wneud cais lle mae modd iddynt nodi y gallent fod yn gymwys i gael y taliad tanwydd gaeaf.

Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd o’r farn ei fod yn gymwys ar gyfer y taliad gyflwyno cais drwy wefan ei gyngor lleol o 13 Rhagfyr 2021 ymlaen. Rhaid i bob cais ddod i law cyn dyddiad cau’r cynllun ar 28 Chwefror 2022. Mewn achos ceisiadau llwyddiannus, gwneir y taliadau rhwng mis Ionawr a diwedd mis Ebrill 2022.

Mae Adran Gwaith a Phensiynau a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau na fydd y taliad hwn yn effeithio ar fudd-daliadau presennol ymgeiswyr ac na chodir trethi arnynt.

About the fund

Eligible households can claim a one-off £200 payment from their local council to provide support towards paying their on-grid winter fuel bills. The payment will be available to all eligible households regardless of how they pay for their on-grid fuel, whether that is, for example, on a pre-payment meter, by direct debit or by paying a bill quarterly.

The scheme is open to households where one member is in receipt of certain welfare benefits.

An applicant meets this condition if they (or their partner) are in receipt of one of the qualifying working-age means tested benefits at any time during the qualifying period 1 December 2021 to 31 January 2022.

These qualifying benefits are:

·         Income Support, or

·         Income-Based Job Seekers Allowance, or

·         Income-Related Employment & Support Allowance, or

·         Universal Credit, or

·         Working Tax Credits

Applicants must also be responsible for paying the energy bills for the property.

An applicant meets this condition if they (or their partner) are responsible for paying on-grid fuel bills to their energy provider for a property in Wales and this property is considered their primary residence.  This condition is satisfied regardless of whether on-grid fuel is paid for through a pre-payment meter, by direct debit or via quarterly bill. This condition is not satisfied if an applicant (or their partner) pays for their fuel off-grid.

Anyone who requires financial assistance with off-grid fuel costs (such as oil, Liquefied Petroleum Gas (LPG) or coal) can consider applying to the Discretionary Assistance Fund for help.

Local councils will be contacting households to invite applications where they can identify potential eligibility for the winter fuel payment.

However, anyone who believes they are eligible for the payment can submit a claim via their local council’s website from 13 December 2021. All applications must be received before the closing date of the scheme on 28 February 2022. Payments for successful applications will be made from January through to end of April 2022.

The Department for Work and Pensions and Her Majesty’s Revenue and Customs have confirmed that this payment will not affect an individual’s current benefits or be subject to tax.

Cymorth Ychwanegol

Y Gronfa Cymorth Dewisol

Os byddwch yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Gallwch wneud cais i’r Gronfa hon drwy’r wefan https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/sut-i-wneud-cais neu drwy radffôn ar 0800 859 5924

Cynllun Cartrefi Clyd

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i’ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad. Gall hyn leihau eich biliau ynni a bod o fudd i’ch iechyd a’ch llesiant. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch radffôn 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru.

Advicelink Cymru

I gael cyngor ar ddyled ac arian ynghyd â gwybodaeth bellach am unrhyw gymorth ariannol arall y gall fod hawl gennych i’w gael, beth am gysylltu ag Advicelink Cymru? Ffoniwch Radffôn 0800 702 2020 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu, i gael gwybodaeth a/neu siarad ag un o’r cynghorwyr ar-lein, cliciwch yma

Additional Support

Discretionary Assistance Fund

If you are experiencing financial hardship, you may be eligible for support through the Discretionary Assistance Fund (DAF). You can apply to the DAF via the website https://gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf/how-apply or by Freephone telephone on 0800 859 5924

Warm Homes Scheme

The Welsh Government Warm Homes Nest scheme offers a range of free, impartial advice and, if you are eligible, a package of free home energy efficiency improvements such as a new boiler, central heating or insulation. This can lower your energy bills and benefit your health and wellbeing. For more information, call freephone 0808 808 2244 or visit nest.gov.wales.

Advicelink Cymru

For debt and money advice and further information on any additional financial support you may be entitled to, you may wish to contact Advicelink Cymru. Please call Freephone 0800 702 2020 (9am to 5pm, Monday to Friday) or to access information and/or talk to adviser online, please click here

 

Diolch am eich cefnogaeth | Thank you for your support.

 

Rhwydwaith Cynghori Cymru / Advice Network Wales

Trechu Tlodi a Chystylltiadau â’r DWP / Tackling Poverty and DWP Relations
Yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus / Prosperous Futures Division
Y Grwp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus / Education and Public Services Group

Llwyodraeth Cymru / Welsh Government

E-bost / Email advicenetworks@gov.wales

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *